This is a Clilstore unit. You can link all words to dictionaries.

Taith drwy’r Aeleg

Mae’r gaeaf yn troi’n wanwyn yn yr Hebrides Allanol, oddi ar arfordir gorllewin yr Alban. Mae’r golygfeydd hardd yn ein hatgoffa y bydd yr ynysoedd hyn yn denu llif cyson o ymwelwyr yn ystod misoedd cynnes yr haf, ond heddiw mae tîm o ynyswyr yn cychwyn ar daith i ogledd-orllewin Iwerddon. Yn yr oes a fu byddent wedi mynd mewn cwch o ynys i ynys a’r rheini’n ffurfio cadwyn ddidor o gymunedau Gaeleg eu hiaith. Ond erbyn hyn, mae maes awyr Benbecula yn cynnig dull hwylusach o deithio a bydd y criw yn cyrraedd maes awyr bychan Donegal ymhen ychydig oriau.

Ymysg aelodau’r tîm mae Archie Campbell a Niel Campbell, y ddau yn siaradwyr Gaeleg rhugl a fagwyd ar ynys Benbecula. Mae’r ddau hefyd wedi bod yn weithgar efo prosiect cymunedol Lleisiau’r Ynysoedd. Mae’r prosiect wedi bod yn gwneud recordiadau fideo a sain o bobl leol i’w rhoi ar-lein ers tro. Y bwriad ydy cynorthwyo dysgwyr yr iaith ynghyd â chasglu archif sy’n darlunio bywyd yn yr Hebrides yn ngeiriau’r trigolion.

Mae gwaith y prosiect wedi ei gydnabod mewn cylchoedd addysgol Gaeleg a Saesneg. A rwan mae Ysgol yr Wyddeleg ym Mhrifysgol Ulster wedi trefnu i’r tîm ymweld â phrosiect cymunedol yn Ngaeltacht Donegal. Bwriad yr ymweliad ydy cyflwyno’r prosiect i aelodau o’r gymuned leol, i weld a ellir defnyddio’r un dull i gefnogi’r Wyddeleg.

Cynhelir y cyfarfod yn Áislann Rann na Feirste – canolfan adnoddau sy’n ddatblygiad newydd yn yr ardal. Mae hi wedi bod yn brysur iawn yma yn ystod Wythnos Genedlaethol yr Wyddeleg, gyda phobl o bob oed yn dod ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chystadlaethau.

Treuliwyd diwrnod cyntaf y gweithdy’n trafod ond roedd yr ail ddiwrnod yn fwy ymarferol. Yn gyntaf oll holodd Caoimhín Ó Dónaill o Brifysgol Ulster Bridanna am y clwb ieuenctid ac yna gwrandawodd ar aelod ifanc yn adrodd.

C. Rwan ta Bridanna, beth oedd yn digwydd yn Ranafast yn ystod y penwythnos?

C/B. Yn y clwb ieuenctid.

B. Wel, rydan ni’n cyfarfod yma bob nos Wener ac rydan ni’n gwneud chwaraeon a gwaith celf. Ac mi fyddwn ni’n mynd am dripiau, mi gawson ni drip i’r Sŵ ym Melfast llynedd. Ac mi fuon ni mewn lle o’r enw Creggan yn Derry ac mewn llefydd nes adre hefyd wrth gwrs.

C. Mi gest tithau wobr yn y gystadleuaeth.

D.
“Hyfryd a melus, Bore tawel o haf
yn eistedd ar fryncyn, Uwchlaw Culfor Gweedore
Yr eog yn y dŵr, Yn amlwg
A’r hwyaden wyllt a’i chywion, yn mynd i lawr tua Gweedore.”

C. Diolch yn fawr i’r tri ohonoch chi am siarad efo ni heddiw ...

Yna holodd Niall Comer reolwr y ganolfan, Aodh Mac Ruairí ynghylch y gwaith cerrig trawiadol yn yr ardal.

N. Sut adeiladwyd y ffordd sy’n mynd o gwmpas Rinn na Monadh fan acw?

A. Yn y pedwardegau yr oedd hi – mae’r dyddiad wedi’i naddu ar un o’r cerrig yna – rwy’n meddwl mai yn ’46 yr oedd hi. Gan ei bod hi’n dilyn yr arfordir roedd yn rhaid iddyn nhw gryfhau’r hen ffordd rhag i’r môr fwyta’r tir ar lanw mawr. Mi benderfynon nhw godi wal gerrig gydag ochr y ffordd i’w hamddiffyn hi. Mi awn ni i lawr yno yn nes ymlaen i weld ble cafwyd y cerrig.

Ar ôl hynny ymwelodd y tîm â thŷ Aodh a’r arfordir er mwyn iddynt gael cyfle i wneud gwaith cofnodi mwy heriol. Doedd hynny ddim yn hawdd ar ddiwrnod mor wyntog!

A. Fel y dywedais gynnau, defnyddid trosol haearn a’i wrthio i’r garreg fel hyn. Ac mi fyddai yna un arall yn y fan yma ac un arall yn y fan yna. Mae’r lle tân yn y fan yna.

Fel y gwelwch chi, y rhain ydy’r hen gerrig o’r adfail oedd ar y safle gynt. Yn hytrach na’u defnyddio i wneud y sylfaen mi wnes i eu cadw. Ac fel y gwelwch chi maen nhw’n gerrig wedi’u trin. Ac fel y gwelwch chi mae yna wyneb da arnyn nhw ac mi wnes i eu defnyddio i adeiladu’r lle tân yma. Ac yn y fan yma eto, welwch chi, dyma lle defnyddiwyd y trosol i hollti’r cerrig.

Fel y gwelwch chi yma, mi ddefnyddiwyd rhai ohonyn nhw i adeiladu’r ffordd. Welwch chi? Efo llaw y gwnaed hyn i gyd.

N. Ie, mae hynny’n eglur.

A. Yn y fan yna. Y ffordd yma yr oedden nhw’n cario’r gwymon.

Mae Aodh hefyd yn dangos y bont dros yr afon i Niall, pont a adeiladwyd â cherrig a holltwyd efo trosol yn yr un modd. Ac mae Caoimhín yn tynnu llun o’r olion ar y cerrig.

Yn y cyfamser mae Neil ac Archie yn trafod yr hyn a welsant ac a glywsant.

N. Wel, dyma ni yn Rann na Feirste ar ôl taith fach i Iwerddon. Mae gynnon ni noson arall yma eto. Ond mae hi wedi bod yn ddiddirol iawn yn tydy?

A. Rydw i wedi bod eisiau dod yma ers hydoedd. Dyma’r tro cyntaf imi fod yn Iwerddon. Roedd hi’n hen bryd imi ddod yma. Rydw i’n falch iawn fy mod i wedi dod.

N. Roedden ni’n dweud gynnau – mae’n debyg iawn i’n rhan ni o’r byd.

A. Ydy wir – mae’n fy atgoffa i o’r ynysoedd.

N. Rydw i wedi bod yn gwrando ar farddoniaeth, ar yr offeren, ar bobl yn siarad. Mae’n rhaid ichi wrando’n astud iawn i ddeall.

A. Mae hi’n dda hefyd bod cymaint o bobl yn siarad Gaeleg yma. Mae’n ymddangos fod yr iaith yn gryf iawn yma. Gobeithio mai felly y mae hi.

N. Mae ein plant ni’n cystadlu unwaith y flwyddyn yn y Mòd. Wn i ddim pa mor aml mae hynny’n digwydd yma. Roedd yna Wythnos Aeleg yma. A doeddwn i ddim yn siwr – ydy hynny’n digwydd bob blwyddyn? Mae’n gwneud imi feddwl. Mae nhw i gyd mor rhugl ac mor gyfforddus ar y llwyfan. Efallai eu bod nhw’n cael mwy o gyfle i wneud hynny. Wn i ddim.

Yna, yn rhy fuan o lawer, mae hi’n bryd cychwyn am yr arfordir a maes awyr Donegal sy’n rhyfedd o gyfarwydd.

Fel mae’r awyren yn codi hediad mae’r tirwedd islaw yn drawiadol o debyg i’r Hebrides. Mae gwybod bod iaith y bobl yn rhannu’r un seiniau a’r un rhythmau - er nad yr un yw’r geiriau bob amser - yn tanlinellu gwerth cryfhau’r cysylltiadau rhwng y cymunedau hyn.

Ac fel mae’r awyren yn cyrraedd Benbecula, mae’r tîm eisoes yn dechrau meddwl am y ffordd orau o ad-dalu’r lletygarwch a dderbyniasant pan fydd yr ynysoedd yn eu tro yn croesawu criw o Iwerddon.

Short url:   http://multidict.net/cs/5834